Dyn yr Eiliad

« You don't have to look hard to find the gems. »

Owen « ar frig y rhestr » yn ôl ymgyrch Buy Welsh y Western Mail. stori.

Cyfieithu / Lleisio

Mae Owen yn gweithio fel cyfieithydd (Cymraeg / Saesneg / Ffrangeg) a thros-leisydd, i gleientiaid mor amrywiol â'r BBC a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. Gweler y fan hon am fwy o wybodaeth. Os hoffech chi drafod prosiect penodol, cysylltwch ar bob cyfrif.

OM »

15.11.08 | Lansiad Dolenni Hud - Bangor

Byddwn yn lansio Dolenni Hud ym Mangor nid ar nos Wener, 5 Rhagfyr, fel yr awgrymais isod, ond ar brynhawn dydd Sadwrn, y 6ed:

Amgueddfa & Oriel Gwynedd
Ffordd Gwynedd
Bangor
Gwynedd
LL57 1DT

2yp, am ddim

10.11.08 | Lluniau o The LAB

The LAB 1

The LAB 2
Diolch i Eilish.

5.11.08 | Lansiadau, dathliadau

Hwre! Mae'n iawn i hoffi'r Unol Daleithiau eto. Da iawn 'rhen Faracksyn.

Ac os ydy holl gyffro'r ras etholiadol wedi codi awydd ymweld â'r taleithiau llai-bras-nag-yn-y-gorffennol arnoch chi, pa le gwell i ddechrau nag yn y Gymru arall? Nid dim ond Dewi Llwyd sydd yn gallu ymweld â threfi Cymreig yr Unol Daleithiau - fe allwch chi hefyd. Yes.

(Ac fe alle fe fod wedi gwneud y daith lot rhatach hefyd, fel mae'n digwydd. Mae 'na Gardiff ar y ffin rhwng Pennsylvania a Maryland ac o'r fan honno, cwta deirawr o siwrne yw hi i Fangor. Yr US-222 yw A470 y Keystone State, mae'n amlwg.)

Fe aeth Dolenni Hud i'r wasg ddydd Llun a gydag ychydig o lwc bydd yn barod i gael ei lansio'n swyddogol yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ar nos Fercher, Tachwedd 26ain. Bydd yna ddarlleniadau, trafodaethau a chyflwyniad o ‘Cymru Arall’, y gosodiad clyweledol a gyflwynwyd gan Simon a fi yn The LAB, San Francisco yn ddiweddar. Dewch yn llu.

R'yn ni'n gobeithio cynnal lansiad yn y Gogledd hefyd - ie, ym Mangor - ar nos Wener, Rhagfyr y 5ed brynhawn Sadwrn, Rhagfyr y 6ed. Bydd mwy o fanylion am hynny ar gael toc.

Dyna ni, felly. Mae'n wawr unwaith eto. Go dda bawb.

Hen newydd - 09.2008   10.2008   11.2008  

ATOM | Blogger