Dyn yr Eiliad

« You don't have to look hard to find the gems. »

Owen « ar frig y rhestr » yn ôl ymgyrch Buy Welsh y Western Mail. stori.

Cyfieithu / Lleisio

Mae Owen yn gweithio fel cyfieithydd (Cymraeg / Saesneg / Ffrangeg) a thros-leisydd, i gleientiaid mor amrywiol â'r BBC a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. Gweler y fan hon am fwy o wybodaeth. Os hoffech chi drafod prosiect penodol, cysylltwch ar bob cyfrif.

OM »

22.10.08 | 'Cymru Arall' yn The LAB, San Francisco

Mae hi'n fyr rhybudd braidd erbyn hyn i chi fwcio tocyn awyren, ond mae gosodiad clyweledol Simon Proffitt a fi, Cymru Arall (Parallel Wales), yn agor heddiw yn oriel The LAB, San Francisco.

Mae'r gwaith yn seiliedig ar y lluniau fydd yn rhan o Dolenni Hud ac yn cynnwys rhyw ddeuddeg o 'ffilmiau byrion' i bob pwrpas - cyfresi o ddelweddau o lefydd 'Cymreig' yn yr Unol Daleithiau wedi'u torri i gyfeiliant synau o'r 'un' trefi yng Nghymru.

Y llefydd dan sylw yw: Blackwood, Bryn Mawr, Bethesda, Cardiff, Flint, Llandaff, Llangollen, Gwynedd, Canton, Buckley, Neath a North Wales.

Fe wnaf i bostio ffilm fach yn y fan hon cyn hir i chi gael blas o'r gwaith ond yn y cyfamser, dyma destun atodol yr arddangosfa ar ffurf PDF (yn yr iaith fain yn unig, am y tro).

(A d'yn ni ddim yn cael mynd i San Francisco chwaith, felly gwylio o bellter fydda i hefyd, gwaetha'r modd...)

Hen newydd - 09.2008   10.2008   11.2008  

ATOM | Blogger