Llun ansawdd uchel

Credit: Catrin Wright



Mae Owen Martell yn awdur nofelau a straeon byrion. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2001 am ei nofel gyntaf, Cadw dy ffydd, brawd, ac fe enwyd ei ail, Dyn yr Eiliad, ar restr fer yr un gystadleuaeth yn 2004. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Dolenni Hud, casgliad o straeon gyda ffotograffau gan Simon Proffitt. Mae e'n chwarae cerddoriaeth gyda'r grŵp Traw ac yn ennill ei damaid fel cyfieithydd a thros-leisydd.