Tachwedd 2008

Gwasg Gomer
ISBN 1-84851-032-2

Dolenni Hud | OM & SP

Gwales

Dolenni Hud

Chwe stori wedi'u lleoli mewn trefi 'Cymreig' yn yr Unol Daleithiau gyda ffotograffau bendigedig gan Simon Proffitt.

» Yr Ymwelydd Llandaff / Y Rhwyd Llangollen / PC Narberth & Cardiff / Y Gawod Bangor / Yng Nghastell Nedd ma' mwriad Neath

« Fe'm cyfareddwyd gan Dolenni Hud. Mae'r storïau hyn yn dewino awyrgylch ac yn dadlennu bwriadau yn y modd doeth a diymdrech yr ydym wedi dod i'w ddisgwyl gan un o awduron pwysica'r iaith. Mae llyfr newydd gan Owen Martell megis carreg filltir yn natblygiad rhyddiaith Gymraeg gyfoes.» Grahame Davies

Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004

Gwasg Gomer, Rhagfyr 2003
ISBN 1-84323-305-3

Dyn yr Eiliad | OM

GOMER | Gwales

Dyn yr Eiliad

« Rhagorol [...] Heb unrhyw or-ddweud, dyma nofelydd y mae modd ei gymharu gydag enwogion llenyddiaethau eraill. Mae aeddfedrwydd yr awdur yn hynod, nid yn hynod o ystyried mai mond yn ei ugeiniau y mae ef o hyd, ond yn hynod ynddo'i hun. Mae ei ddealltwriaeth o'r natur ddynol a'i grefft wrth gyflwyno hynny yn gwneud i waith ambell i awdur Cymraeg dwywaith ei oed edrych yn anaeddfed. [...] Ymddengys i Owen Martell gael ysgoloriaeth i ysgrifennu'r nofel yma. Dwn i ddim faint gostiodd hynny i Gyngor y Celfyddydau, ond roedd werth pob ceiniog. Yn fy marn i, peidiwch trafferthu rhoi mwy o ysgoloriaethau unigol i'r nofelydd yma - rhowch bensiwn oes iddo er mwyn inni gael mwy o ddeunydd fel Dyn yr Eiliad. » BBC Cymru'r Byd

« A book of incredible ambition [...] full of piercingly perceptive insight into the games people play [...] I for one can still hear the quiet music of this writing long after reading it, a prose insistent and sustaining. It's a meditation on the threads and ties that bind us to each other and it makes for a memorable tapestry. » Jon Gower, New Welsh Review Rhif 64, Haf 2004

Asiant

Lucy Luck, Lucy Luck Associates,
18-21 Cavaye Place, Llundain SW10 9PT.
+44 (0)207 373 8672
lucy [at] lucyluck.com

The Other Man

Cyfieithiad Owen o Dyn yr Eiliad. Gellir darllen rhannau o'r cyfieithiad ar safle we Words Without Borders ac yn y North American Journal of Welsh Studies. Mae'r nofel yn cael ei "chynrychioli", fel petai, gan Lucy Luck.

« [1.6] And the feeling remaining, then, underscoring everything, that the truth about what had happened had been lost, perhaps for ever, in a maelstrom of implication. In all the postulation about Davies’ condition – two minds teaming up to try and know the contents of another – how strange it was that not one of these possibilities announced itself as truth, or anything resembling truth, but rather that each thread let us carry on thinking aloud, talking for the sake of talking and steering the wayward course with grotesque inevitability. »

Llyfr y Flwyddyn 2001

Gwasg Gomer, Ebrill 2000
ISBN 1-85902-861-6

Cadw dy ffydd, brawd | OM

gomer

Cadw dy ffydd, brawd

« Mae'r monologue interieure sy'n llifo dros y tudalennau yn datgelu person miniog ei feddwl, llawn synnwyr anghyffredin [...] Nid oes amheuaeth nad yw'r awdur yn feistr ar ei grefft. Camp dawel, ddi-dynnu-sylw-ati'i-hun sydd yma, ond mae'n fwy o gamp yn rhinwedd hynny. » John Rowlands

« O'r cychwyn tan y diweddglo does dim pall ar yr hunan-ddisgrifiad craff, cynnil, miniog, treiddgar, gofalus, didrugaredd. Dyma lawfeddyg o lenor ar waith [...] Mae'n nofel am Gymru, ac am unigolyn sydd yn byw tu allan i Gymru, sy'n taflu nofelau Eingl-Gymreig i'r domen [...] Da o beth yw croesawu llais hyderus, gwreiddiol, newydd a beiddgar i reng flaen stabl llenyddiaeth. » David Greenslade, Barn 448, Mai 2000