Gwaith
Mae Owen yn gweithio fel cyfieithydd (Cymraeg / Saesneg / Ffrangeg) a
thros-leisydd, i gleientiaid mor amrywiol â'r BBC a'r Gymdeithas Fferyllol
Frenhinol. Os hoffech chi drafod prosiect penodol,
cysylltwch ar bob cyfrif.
Mae Owen yn gweithio'n achlysurol hefyd â dylunwyr clawr
Dyn
yr Eiliad,
Green Land Design.
Fe enillon nhw un o wobrau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2007 am eu dylunio
dwyieithog ar we-fan
Ffresh.
Cyfieithu
Cyfieithiadau graenus, creadigol, darllenadwy a chyflym. Am bris cystadleuol.
Mae gan Owen radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru
Aberystwyth a blynyddoedd lawer o brofiad o gyfieithu ar gyfer amrywiol
sefydliadau a chwmnïau sector preifat a chyhoeddus.
» Cymraeg-Saesneg, Saesneg-Cymraeg, Ffrangeg-Saesneg/Cymraeg
Credits yn cynnwys:
Vets (BBC Cymru) / Grandstand (BBC Rhwydwaith)
/ O Flaen Dy Lygaid (S4C) / Scrum V (BBC Cymru)
/ The Man Who Jumped Beneath the Earth (BBC & S4C)
/ ac amrywiol drêls i BBC Cymru / S4C
« Owen Martell a'i 'Lais Fel Mêl'
»
Mae Owen yn llais cyfarwydd ar deledu a radio yng Nghymru ac wedi lleisio
amrywiaeth eang o raglenni, yn ddogfennau, trêls, newyddion a chwaraeon.
Dros y blynyddoedd diwethaf, gweithiodd i'r BBC ac S4C yng Nghymru, i
deledu rhwydwaith ac ar amrywiol gynyrchiadau ar-lein.
* Nid fi sy'n dweud hyn ond y Western Mail felly
mae'n rhaid ei fod yn wir.