Hwre! Mae'n iawn i hoffi'r Unol Daleithiau eto. Da iawn 'rhen Faracksyn.
Ac os ydy holl gyffro'r ras etholiadol wedi codi awydd ymweld â'r taleithiau llai-bras-nag-yn-y-gorffennol arnoch chi, pa le gwell i ddechrau nag yn y Gymru arall? Nid dim ond Dewi Llwyd sydd yn gallu ymweld â threfi Cymreig yr Unol Daleithiau - fe allwch chi hefyd. Yes.
(Ac fe alle fe fod wedi gwneud y daith lot rhatach hefyd, fel mae'n digwydd. Mae 'na Gardiff ar y ffin rhwng Pennsylvania a Maryland ac o'r fan honno, cwta deirawr o siwrne yw hi i Fangor. Yr US-222 yw A470 y Keystone State, mae'n amlwg.)
Fe aeth Dolenni Hud i'r wasg ddydd Llun a gydag ychydig o lwc bydd yn barod i gael ei lansio'n swyddogol yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ar nos Fercher, Tachwedd 26ain. Bydd yna ddarlleniadau, trafodaethau a chyflwyniad o ‘Cymru Arall’, y gosodiad clyweledol a gyflwynwyd gan Simon a fi yn The LAB, San Francisco yn ddiweddar. Dewch yn llu.
R'yn ni'n gobeithio cynnal lansiad yn y Gogledd hefyd - ie, ym Mangor -
Dyna ni, felly. Mae'n wawr unwaith eto. Go dda bawb.

Sylwadau:
Отправить комментарий
<< Главная страница